Facebook Pixel

Byw Mewn Ffordd Wyrdd

Enw’r Gweithgaredd: 

Byw Mewn Ffordd Wyrdd

Disgrifiad o’r Gweithgaredd:

Mae Byw Mewn Ffordd Wyrdd yn weithgaredd tîm sy’n edrych ar effaith datblygiadau tai ar yr amgylchedd ac ar y gymuned.

Bydd cyfranogwyr yn cynllunio ac yn cynhyrchu cynllun model ar gyfer datblygiad tai cymysg cynaliadwy, yn ogystal â llunio dogfen dendro a chyflwyniad o’u syniadau.

Nod y Gweithgaredd:

Annog cyfranogwyr i ystyried rhai o’r themâu allweddol sy’n ymwneud â dylunio cynaliadwy, yn ogystal â chyflwyno rhai gyrfaoedd proffesiynol a rheolaethol ym maes adeiladu i’r cyfranogwyr.

Ceir pwyslais ar waith tîm, rheoli amser, cyllid a sgiliau cyflwyno. 

Cynulleidfa (Oedran a Argymhellir):

  • 11 oed - oedolyn
  • Gellir addasu’r gweithgaredd ar gyfer cynulleidfaoedd iau
Byw Mewn Ffordd Wyrdd

Maint y Grŵp: Dylai cyfranogwyr weithio mewn grwpiau o 4-6 o bobl. 

Cyfyngir ar faint cyffredinol y grŵp yn ôl faint o amser sydd ei angen ar bob grŵp i roi cyflwyniad 2 funud o hyd.

Rhagor o wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd, ewch i Daflen Flaen y Gweithgaredd, sy’n rhoi gwybodaeth am y canlynol:

  • Paratoi a’r Adnoddau y byddwch eu hangen
  • Cysylltiadau â’r Cwricwlwm/ Sector/ Sgiliau Cyflogadwyedd
  • Gweithgareddau Ymestyn
  • Amserlen a Awgrymir

Dogfennau i’w Llwytho i lawr

Llwytho Pob Dogfen i Lawr: 

Byw Mewn Ffordd Wyrdd - Pob Dogfen
Maint y ffeil: 12.1MB

Llwythwch yr holl ddogfennau i lawr ar gyfer y Gweithgaredd Byw Mewn Ffordd Wyrdd.

LAWRLWYTHO - Byw Mewn Ffordd Wyrdd - Pob Dogfen
Dyluniwyd y wefan gan S8080